Diolch am wneud cais am swydd gyda Chasnewydd Fyw.
Mae'r wybodaeth y gofynnir amdani ar y ffurflen hon yn bwysig wrth asesu'ch cais. Llenwch y ffurflen yn gywir ac yn llawn. Ni fydd CV ar ei ben ei hun yn cael ei dderbyn. Nid ydym yn cydnabod derbyn ffurflenni cais yn awtomatig nac yn ysgrifennu at ymgeiswyr nad ydyn nhw wedi'u dewis am gyfweliad. Os na chlywch unrhyw beth o fewn 6 wythnos i'r dyddiad cau, tybiwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus.
Llenwch bob adran o'r ffurflen gan ddefnyddio inc du neu deipiwch yn y blychau a ddarperir. Cysylltwch â 01633 656 757 os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â'r ffurflen gais hon.
Os oes angen copi caled o’r ffurflen gais arnoch, neu os ydych chi’n cael trafferth cwblhau’r cais ar-lein, e-bostiwch jobs@newportlive.co.uk. Diolch.