Telerau ac amodau
Dyma’r canllawiau a’r telerau a’r amodau llawn ar gyfer cystadleuaeth ‘The Eurekas’. Drwy gyflwyno cais, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a’ch bod yn derbyn y telerau hyn. Caiff y gystadleuaeth ei chynnal gan y Sefydliad Ffiseg/Institute of Physics (‘IOP’), 37 Caledonian Road, London, N1 9BU, UK.
Meini prawf ar gyfer cyflwyno cais
- Gall y cais fod ar unrhyw ffurf: fideo, recordiad sain, darn o gelf, cerflun, darn o farddoniaeth, neu hyd yn oed rywbeth yr ydych wedi’i bobi, er enghraifft.
- Rhaid ei fod yn ateb y cwestiwn hwn: Sut y mae ffiseg yn bwydo eich brwdfrydedd?
- Rhaid cyflwyno llythyr eglurhaol byr, nad yw’n cynnwys mwy na 200 o eiriau, gyda’r cais, sy’n esbonio perthynas y darn â’r thema.
- Ni ddylai fideos fod yn hirach na 60 eiliad; ni ddylai ffeiliau fod yn fwy na 10MB o faint; ac ni ddylai darnau ysgrifenedig gynnwys mwy na 600 o eiriau.
- Dylai ceisiadau ddangos y myfyrwyr yn rhyngweithio â ffiseg mewn modd creadigol sydd efallai’n annisgwyl.
Rheolau cyffredinol
- Ni chodir ffi am gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ac mae’n agored i bob myfyriwr yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
- Rhaid bod yr ymgeiswyr rhwng 11 ac 16 oed pan gaiff y prosiect ei gyflwyno i’r gystadleuaeth.
- Caiff pob ymgeisydd gyflwyno un prosiect yn unig, naill ai fel unigolyn neu fel aelod o dîm.
- Rhaid nad yw timau’n cynnwys mwy na phedwar myfyriwr.
- Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno ceisiadau’n agor ar 4 Mawrth 2024 ac yn cau ar 10 Mehefin 2024.
- Rhaid i bob cais gael ei gyflwyno gan riant/gofalwr neu athro/athrawes ar ran yr ymgeisydd. Ni fyddwn yn gallu beirniadu ceisiadau a gyflwynir gan fyfyrwyr, a dim ond â’r rhiant/gofalwr neu’r athro/athrawes a gyflwynodd y cais y byddwn yn cyfathrebu. Dylech sicrhau bod pob cais yn cydymffurfio â pholisi diogelu eich ysgol.
- Os yw’r cais yn cael ei gyflwyno gan athro/athrawes, rhaid iddo/iddi sicrhau ei fod/bod yn gyntaf wedi cael - yn unol â gweithdrefnau arferol yr ysgol ar gyfer cael caniatâd rhiant - y caniatâd angenrheidiol gan rieni/gofalwyr yr ymgeiswyr i gyflwyno’r cais ac i’w ddefnyddio fel yr eglurir yn y telerau hyn.
- Yn achos ceisiadau gan grwpiau, rhaid bod pob un o aelodau’r tîm yn mynd i’r un ysgol – ond gallant fod mewn dosbarthiadau neu flynyddoedd gwahanol.
- Ni all ceisiadau fod yn anorffenedig pan gânt eu cyflwyno. Ni fyddwn yn caniatáu i geisiadau gael eu haddasu’n nes ymlaen, felly dim ond ceisiadau gorffenedig y dylech eu cyflwyno.
- Drwy gyflwyno cais, rydych yn rhoi i’r Sefydliad Ffiseg hawl fyd-eang, derfynol heb freindal i gyhoeddi a dosbarthu’r cais ar ei sianel YouTube dan Drwydded Ryngwladol Priodoli-Anfasnachol-Anneilliadol 4.0 Creative Commons (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/) ac ar ei wefannau ac yn ei gyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd gan y Sefydliad Ffiseg hawl i addasu’r cais fel y bo raid er mwyn arfer yr hawl hon i gyhoeddi.
Beirniadu a gwobrau
1. Bydd pob prosiect a gyflwynir yn cael ei adolygu gan banel o feirniaid. Bydd y beirniaid yn asesu’r ceisiadau ar sail y meini prawf canlynol:
- Cysylltiad â’r thema
- Gwreiddioldeb
- Mynegiant
- Ansawdd
2. Bydd un enillydd cyffredinol yn cael £1,000/€1,200, yn ogystal â £250/€300 i’w ysgol. Bydd y ddau sy’n ail yn cael £500/€600 yr un, a bydd chwe gwobr o £250/€300 yn cael eu dyfarnu i gais rhagorol o bob grŵp oedran, o 11 i 16.
3. Bydd penderfyniadau’r beirniaid yn derfynol ac ni ellir apelio yn erbyn y canlyniadau.
4. Bydd enwau enillwyr y gwobrau’n cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2024.
5. Bydd pob gwobr yn cael ei thalu i’r rhiant/gofalwr neu’r athro/athrawes a gyflwynodd y cais, a’u cyfrifoldeb nhw fydd sicrhau bod y wobr yn cael ei rhoi i’r ymgeiswyr.
6. Ni ellir cyfnewid na throsglwyddo unrhyw wobrau.
7. Os na ellir cysylltu ag enillydd cyn pen 30 diwrnod, gellir datgan bod y cais yn annilys a gellir dewis enillydd newydd.
Pethau pwysig i’w nodi…
- Ni chaniateir llên-ladrata: rhaid mai gwaith gwreiddiol yr ymgeisydd yw’r cais, a rhaid nad yw wedi’i gyhoeddi yn unrhyw le arall ac nad yw wedi’i ddefnyddio i gymryd rhan mewn cystadlaethau eraill. Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, mae’r unigolyn sy’n cyflwyno’r cais yn rhoi cadarnhad i’r Sefydliad Ffiseg:
- mai gwaith gwreiddiol yw’r cais, a grëwyd gan yr ymgeisydd/ymgeiswyr yn unig; ac
- nad yw’r cais yn torri hawlfraint neu’n tresmasu ar hawliau eiddo deallusol eraill unrhyw drydydd parti.
- Cyfrifoldeb yr athro/athrawes neu’r rhiant/gofalwr yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newid i’w manylion cyswllt, os bydd y manylion hynny’n newid yn ystod y gystadleuaeth. Peidiwch ag anfon unrhyw fanylion cyswllt ar gyfer y myfyrwyr atom.
- Rhaid bod unrhyw brosiectau sy’n golygu rhyngweithio â phobl neu ddefnyddio sylweddau neu ddyfeisiau peryglus yn cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol ynghylch iechyd a diogelwch a chanllawiau sefydliad addysgol yr ymgeisydd.
- Ni all y Sefydliad Ffiseg dderbyn cyfrifoldeb am geisiadau nad ydynt yn dod i law, neu geisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad cau oherwydd nam technegol neu reswm arall.
- Ni chaniateir unrhyw geisiadau gan weithwyr y Sefydliad Ffiseg neu unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth, gan gynnwys aelodau o’u teulu agosaf.
- Mae’r Sefydliad Ffiseg yn cadw’r hawl i newid rheolau’r gystadleuaeth hon, neu ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth, yn ddirybudd.
- Gellir gwrthod unrhyw gais, ac mae’r Sefydliad Ffiseg yn cadw’r hawl i beidio â dyfarnu rhai o’r gwobrau neu bob un ohonynt os nad yw’r ceisiadau yn bodloni’r gofynion, yn unol â phenderfyniad y beirniaid.
- Ni fydd y Sefydliad Ffiseg yn atebol am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â chymryd rhan yn y gystadleuaeth.
- Bydd data personol yn cael ei brosesu gan y Sefydliad Ffiseg yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Mae rhagor o fanylion i’w cael yma http://www.iop.org/privacy/index.html.
Caiff y telerau a’r amodau hyn eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr.