Sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych yr hyn y gallwch ei ddisgwyl pan fo Adra yn casglu gwybodaeth bersonol. Mae’r uned Adnoddau Dynol yn casglu eich gwybodaeth ar gyfer y broses recriwtio yn unig, i bwrpas gwerthuso eich addasrwydd ar gyfer cyflogaeth, gwneud unrhyw addasiadau rhesymol ac ar gyfer monitro cydraddoldeb. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei ddiogelu a’i brosesu yn unol â gofynion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018.
Mae’n bosib bydd rhan o’ch gwybodaeth bersonol yn cael ei gyfnewid gyda thrydydd parti lle mae’n angenrheidiol at ddibenion asesu ac i gynnal sgrinio cyn-gyflogaeth. Er enghraifft, wrth gael tystlythyrau gan gyn-gyflogwyr, neu wrth ofyn am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Gall y wybodaeth a gasglwyd cynnwys y canlynol:- .
Eich enw;
Cyfeiriad;
Llofnod;
Cyfeiriad e-bost
Rhif Yswiriant Cenedlaethol
Cymwysterau
Cyflogaeth blaenorol
Aelodaeth o Gyrff Proffesiynol
Tarddiad Ethnig
Data Anabledd
Crefydd
Os yw eich cais am gyflogaeth yn llwyddiannus, bydd Adra yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion gweinyddu eich cyflogaeth. Os yw eich cais yn aflwyddiannus, bydd Adra yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnod hyd at 6 mis o’r dyddiad y mae’r ymgyrch recriwtio perthnasol yn cau.
Pobl sy’n galw ein llinell gymorth
Pan fyddwch yn galw Adra byddwn yn cadw eich rhif ffôn, y dyddiad, amser a hyd eich galwad. Defnyddir y wybodaeth hon i fonitro perfformiad y gwasanaeth yn ymateb i ymholiadau a chânt eu difa ar ôl 12 mis. Ar adegau, fe all Adra recordio eich galwad ffôn - ni fydd hyn yn digwydd ond i bwrpasau hyfforddi a monitro neu pe bai ein staff yn cael eu cam-drin yn eiriol. Ym mhob achos byddwn yn rhoi rhybudd i chi ymlaen llaw o’n bwriad i recordio’r alwad.
Pobl sy’n anfon e-bost atom
Gellir monitro unrhyw e-bost a anfonir atom, gan gynnwys unrhyw atodiadau, ar gyfer cydymffurfiaeth gyda Pholisi Diogelu Data. Gellir defnyddio meddalwedd rhwystro neu fonitro e-bost hefyd. Cofiwch os gwelwch yn dda bod gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-bost yr ydych yn ei anfon atom o fewn ffiniau’r gyfraith.
Eich hawliau
Mae gennych hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol i ddibenion marchnata. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi (cyn casglu eich data) os ydym yn bwriadu defnyddio eich data i unrhyw ddiben o’r fath neu os ydym yn bwriadu datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti i’r un perwyl. Gallwch ymarfer eich hawl i rwystro prosesu o’r fath trwy gwblhau rhai blychau ar y ffurflenni yr ydym yn eu defnyddio i gasglu data.
Mynediad i wybodaeth bersonol
Mae Adra yn ceisio bod mor agored â phosib o ran rhoi mynediad i bobl i’w gwybodaeth bersonol. Gall unigolion ddarganfod a oes gennym wybodaeth bersonol amdanynt trwy wneud ‘cais gwrthrych am wybodaeth’ dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018. Os bydd gennym wybodaeth amdanoch byddwn yn:
rhoi disgrifiad ohoni;
dweud wrthych pam mae’r wybodaeth gennym;
dweud wrthych i bwy y gellir datgelu’r wybodaeth; a
rhoi copi o’r wybodaeth ar ffurf ddealladwy.
Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl i chi gael mynediad i wybodaeth sydd gennym amdanoch. Gallwch ymarfer eich hawl mynediad yn unol â’r Ddeddf. Ni fydd angen i chi dalu ffi i weld eich data personol (nac i ymarfer unrhyw un o’r hawliau eraill). Fodd bynnag, efallai y byddwn yn codi ffi resymol os ydi’ch cais yn ddi-sail, yn ailadroddus neu yn ormodol. Fel arall, efallai y byddwn yn gwrthod cydymffurfio â’ch cais yn yr amgylchiadau hyn.
Os oes gennym wybodaeth amdanoch, gallwch ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau trwy gysylltu â’r Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol. Bydd unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn cael ei chadw’n ddiogel am gyfnod na fydd yn hwy nag sydd angen.
Datgelu gwybodaeth bersonol
Mewn llawer o amgylchiadau ni fyddwn yn datgelu data personol heb ganiatâd. Fodd bynnag, pan fyddwn yn ymchwilio i gŵyn, er enghraifft, hwyrach y bydd angen i ni rannu gwybodaeth bersonol gyda’n cydweithwyr. Ymhellach, o bryd i’w gilydd, mae’n rhaid i Adra ddatgelu gwybodaeth bersonol yn unol â’r gyfraith, er enghraifft i Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yr Heddlu, y Gwasanaethau Iechyd ac asiantaethau eraill.
Sut i gysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Adra cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:
Swyddog Diogelu Data, Adra, PO Box 206, Bangor, Gwynedd, LL57 9DS neu trwy ebost GDPR@adra.co.uk
Adra PRIVACY NOTICE
Human Resources
How we use your information
This privacy notice tells you what to expect when Adra collects personal information. The Human Resources unit collects your information and will use it only as part of the recruitment process for the purposes of evaluating your suitability for employment, making any reasonable adjustments and for equalities monitoring. Your personal information will be properly safeguarded and processed in accordance with the requirements of the General Data Protection Regulation 2018.
Some of your personal information may also be exchanged with third parties where it is necessary for the purposes of assessment and to carry out pre-employment screening. For example, when obtaining references from previous employers, or requesting a Disclosure and Barring Service check. The information to be collected may include the following:
Your name;
Address;
Signature;
Email address
National Insurance No.
Qualifications
Previous employment
Membership of Professional Organisations
Ethnic Origin
Disability data
Religion
If your application for employment is successful, Adra will use your personal information for the purpose of administering your employment. If your application is unsuccessful, Adra will retain your personal information for a period of up to 6 months from the date on which the relevant recruitment campaign is closed.
People who call our helpline
When you call Adra we record your phone number, the date, time and duration of your call. This information is used to monitor service performance in responding to enquiries and is destroyed after 12 months. On occasion, Adra may record your telephone call - this will only take place for training and monitoring purposes or in the event that our staff are subject to abuse. In all cases we will provide you with prior notice of our intention to record the call.
People who email us
Any email sent to us, including any attachments, may be monitored for compliance with the Data Security Policy. Email monitoring or blocking software may also be used. Please be aware that you have a responsibility to ensure that any email you send to us is within the bounds of the law.
Your rights
You have the right to ask us not to process your personal data for marketing purposes. We will always inform you (before collecting your data) if we intend to use your data for such purposes or if we intend to disclose your information to any third party for such purposes. You can exercise your right to prevent such processing by completing certain boxes on the forms we use to collect your data.
Access to personal information
Adra tries to be as open as it can be in terms of giving people access to their personal information. Individuals can find out if we hold any personal information by making a ‘subject access request’ under the GDPR regulation. If we do hold information about you we will:
give you a description of it;
tell you why we are holding it;
tell you who it could be disclosed to; and
let you have a copy of the information in an intelligible form.
The Act gives you the right to access information held about you. Your right of access can be exercised in accordance with the Act. You will not have to pay a fee to access your personal data, however, we may charge a reasonable fee if your request is clearly unfounded, repetitive or excessive. Alternatively, we may refuse to comply with your request in these circumstances.
If we do hold information about you, you can ask us to correct any mistakes by contacting the Corporate Information Officer.
Any information we hold about you will be held securely and for no longer than required.
Disclosure of your personal information
In many circumstances we will not disclose personal data without consent. However, when we investigate a complaint, for example, we may need to share personal information with colleagues. Further, from time to time, Adra, is obliged by law to disclose personal information that it holds for example to the Revenue and Customs, the Police, the Health Services and other agencies.
How to contacts us
For further information on the Adra Privacy Notice please contact:
Data Protection Officer, Adra, PO Box 206, Bangor, Gwynedd, LL57 9DS or e-mail GDPR@adra.co.uk