Peidiwch ag anghofio cadw copi o’r ffurflen gais ar gyfer eich cofnodion
Hysbysiad Preifatrwydd
Mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn gweinyddu'r Grant Cist Gymunedol ar ran Cyngor Sir y Fflint. Cyngor Sir y Fflint yw'r Rheolydd Data ar gyfer yr holl wybodaeth yr ydych yn ei darparu ar gyfer y Grant hwn.
Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint at ddibenion asesu eich cais am Grant Cist Gymunedol yn unig.
O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, y sail gyfreithlon dros brosesu’r wybodaeth hon yw bod arnom ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Mae angen prosesu eich data personol at ddibenion asesu a gweinyddu’r Grant hwn i allu gwneud penderfyniad ar gyllid. Bydd Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn cadw eich data ac efallai y bydd angen rhannu hwn gyda Ni fydd eich data personol yn cael ei rannu gydag unrhyw un arall. Bydd Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn cadw eich gwybodaeth yn unol â chanllawiau cadw presennol y Cyngor – blwyddyn bresennol a chwe blynedd ar gyfer grantiau.
Os ydych chi’n teimlo bod eich data personol yn cael ei gamddefnyddio ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx
Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.