Y LLAIS (TERMAU AC AMODAU YMGEISIO)
Boom Cymru TV Cyf o Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10 4GA (“ni”, “ein”) yw cynhyrchwyr “Y Llais” (y “Rhaglen”) yn seiliedig ar y fformat “The Voice”
Trwy lenwi a chyflwyno ffurflen gais ar gyfer y Rhaglen (y “Ffurflen Gais”) rwyt yn cytuno i’r telerau ac amodau hyn (y “Telerau ac Amodau”) ac yn cytuno ac yn cydnabod bod y Telerau ac Amodau hyn yn rhan o dy gais.
CYFFREDINOL
Dim ond ymgeiswyr sy'n gymwys fydd yn medru cymryd rhan yn y Rhaglen.
Oherwydd y nifer fawr o geisiadau, yn anffodus ni allwn gydnabod nac ymateb i bob Ffurflen Gais a gyflwynir ond dim ond y rhai yr ydym yn dymuno eu cyflwyno i gam nesaf y broses ddethol. Byddwn yn dethol yr ymgeiswyr ar gyfer cam nesaf y broses yn ôl ein disgresiwn llwyr.
Sylwer nad yw derbyn galwad ffôn a/neu unrhyw ohebiaeth arall gan aelod o dîm cynhyrchu’r Rhaglen a/neu fynychu unrhyw ddiwrnodau recordio yn golygu ymddangosiad yn y Rhaglen.
Os wyt yn cael dy ddewis gan dîm cynhyrchu’r Rhaglen i symud i gam nesaf y broses ddethol, byddwn yn cysylltu dros y ffôn ar y rhif a ddarperir gennyt yn y Ffurflen Gais. Nid yw symud i gam nesaf y broses ddethol yn gwarantu dy fod wedi dy ddewis i gymryd rhan yn y Rhaglen yn y pen draw.
DY RWYMEDIGAETHAU
Efallai y byddwn yn gofyn i ti ffilmio rhai pethau, gan gynnwys cyfweliadau neu recordiadau yn dy gartref a gyda dy deulu neu ffrindiau ac rwyt yn cytuno i wneud pob ymdrech i hwyluso'r recordiadau hyn.
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i ti ganu a/neu berfformio fersiwn wahanol o dy hoff ganeuon (e.e. fersiwn hirach/fyrrach) a/neu ganu a/neu berfformio caneuon a ddewiswyd gennym ni fel rhan o’r Rhaglen. Efallai y byddwn yn gofyn i ti ganu cyfieithiad Cymraeg o unrhyw gân a ddewiswyd na chafodd ei chyfansoddi yn Gymraeg yn wreiddiol.
Bydd angen prawf oedran. Gallwn yn ôl ein disgresiwn llwyr dy dynnu'n ôl o’r Rhaglen os ydym yn amau neu'n canfod nad yw dy ddogfennau gwirio oedran yn ddilys.
Rwyt yn cadarnhau:
a) bod cynnwys y Ffurflen Gais yn gywir ac yn hollol wir ym mhob ystyr;
b) os yw'n ofynnol gennym ni, byddi di yn rhoi tystiolaeth i ni i gadarnhau unrhyw wybodaeth a ddarparwyd yn dy Ffurflen Gais a dy fod yn gymwys;
c) dy fod yn deall natur a phwrpas y Rhaglen (sy'n cynnwys dod o hyd i enillydd ar gyfer y Rhaglen);
ch) dy fod yn deall mai’r wobr i’r enillydd yw pecyn wedi’i deilwra sy’n cynnwys mentora gan arbenigwyr Y Llais dros gyfnod o 12 mis, cyfleoedd perfformio ac ymddangosiadau ar raglenni ac mewn digwyddiadau a ddarlledir ar S4C;
d) i'r graddau y mae dy Ffurflen Gais yn dal i fod dan ystyriaeth i gael ei gynnwys yn y Rhaglen, y byddi di yn rhoi gwybod i ni am unrhyw wybodaeth a allai beryglu neu fwrw amheuaeth ar hygrededd y Rhaglen a/neu a allai effeithio ar ein henw da neu enw da S4C;
dd) na fydd dim yn dy Ffurflen Gais yn torri unrhyw hawlfraint (ac eithrio cliriadau cerddoriaeth) nac unrhyw hawl arall sydd gan unrhyw berson, yn torri unrhyw gytundeb neu ddyletswydd cyfrinachedd, yn gyfystyr â dirmyg llys, yn ddifenwol, a/neu fel arall yn dod â ni, y Rhaglen neu unrhyw barti arall i mewn i anfri; ac
e) y byddi di yn cydymffurfio â'r holl gyfreithiau perthnasol eraill mewn perthynas â chyflwyno dy Ffurflen Gais.
Os cei dy ddewis yn ffurfiol i ymddangos ar y Rhaglen, rwyt yn cytuno i lofnodi cytundeb cyfraniad gyda ni (y “Cytundeb Cyfraniad”) a fydd yn cynnwys heb gyfyngiad telerau ac amodau dy gyfraniad yn y Rhaglen. Os byddi di yn dewis peidio â llofnodi neu’n methu â llofnodi’r Cytundeb Cyfraniad cyn dyddiad a bennir yn rhesymol gennym ni, gallwn yn ôl ein disgresiwn llwyr dy dynnu’n ôl rhag cymryd rhan yn y Rhaglen.
Rwyt yn cytuno i roi manylion llawn y canlynol i ni, os yw'n bosib y gall y rhain gyfyngu mewn unrhyw ffordd ar dy allu i gymryd rhan yn y Rhaglen neu fel arall dy orfodi i sicrhau taliad i unrhyw drydydd parti:
a) unrhyw gytundeb recordio neu gytundebau cyhoeddi cerddoriaeth sydd gennyt yn flaenorol (y “Cytundebau Artist Blaenorol”); a/neu
b) unrhyw gytundeb arall, gan gynnwys heb gyfyngiad, unrhyw gytundebau recordio neu gytundebau cyhoeddi cerddoriaeth (boed yn ysgrifenedig neu ar lafar, yn gyfredol neu fel arall) ag unrhyw drydydd parti (“Cytundeb(au) Masnachol”)
Os nad wyt yn rhoi gwybod i ni am unrhyw Gytundebau Artist Blaenorol a/neu Gytundebau Masnachol o’r fath, bydd gennym yr hawl yn ôl ein disgresiwn llwyr i dy dynnu’n ôl rhag cymryd rhan yn y Rhaglen ar unrhyw adeg.
Rwyt yn cytuno i ofyn am ein caniatâd ysgrifenedig cyn ymrwymo i unrhyw Gytundeb Masnachol newydd y gellir ei gynnig i ti yn ystod dy gyfraniad parhaus yn y Rhaglen. Rwyt yn cytuno ac yn cydnabod, os byddi di yn ymrwymo i Gytundeb Masnachol newydd rhwng dyddiad y Ffurflen Gais a dy gyfraniad parhaus yn y Rhaglen heb ofyn am ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw, bydd gennym yr hawl i dy dynnu’n ôl o’r Rhaglen a/neu roi dy le yn y Rhaglen i gyfrannydd arall.
UNRHYW FIDEOS NEU DDEUNYDDIAU ERAILL YR WYT YN EU CYFLWYNO GYDA DY FFURFLEN GAIS
Wrth gyflwyno unrhyw fideos a/neu unrhyw ddeunyddiau eraill gyda dy Ffurflen Gais (y “Deunyddiau”):
a) rwyt yn cadarnhau bod gennyt yr hawliau a chaniatâd i gyflwyno'r Deunyddiau fel rhan o dy Ffurflen Gais; ac
b) os cei dy ddewis ar gyfer y Rhaglen rwyt yn rhoi caniatâd i ni ddefnyddio dy berfformiad ac unrhyw ddeunydd gwreiddiol a grëwyd gennyt o fewn y Deunyddiau fel rhan o'r Rhaglen heb unrhyw ffioedd na thaliadau pellach yn dod yn ddyledus i ti nac i unrhyw berson neu gwmni arall ac eithrio cliriadau cerddoriaeth.
CYFRINACHEDD
Oni bai y byddwn yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig, byddi di yn cadw unrhyw wybodaeth neu ddeunydd arall sy'n ymwneud â dy Ffurflen Gais yn gyfrinachol ac ni fyddi yn ei datgelu i unrhyw drydydd parti. Mae'r un peth yn wir am unrhyw wybodaeth, ffotograffau neu ddeunydd arall y byddwn yn ei roi i ti ac yn dweud wrthyt am ei gadw'n gyfrinachol.
AMRYWIOL
Gallwn newid neu ddiwygio’r Telerau ac Amodau ar unrhyw adeg yn ôl ein disgresiwn llwyr.
Bydd gennym hawl i aseinio’r Telerau ac Amodau hyn a bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr ac mae’r partïon a geir yma drwy hyn yn ymostwng i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
DIOGELU DATA
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir yn y Ffurflen Gais yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd ynghyd â Pholisi Preifatrwydd S4C.