S4C Documentary Scheme - Straeon Cymraeg - Di-Sgript 2025/2026
  • Cynllyn Dogfen S4C - Ffurflen Gais

  • Cyflwyniad
    Dyma gyfle i geisio am ein Cynllun Straeon Cymraeg - cynllun ar y cyd rhwng It’s My Shout Productions, CIC Ltd a S4C/Hansh.

    Mae hwn yn gyfle i 2 unigolyn ifanc, Cymreig gael y cyfle i gynhyrchu dwy raglen ddogfen 10 munud, drwy greu cynnwys di-sgript gyda’r nod o rannu lleisiau unigolion a straeon grwpiau a chymunedau o ledled Cymru.

    Crynodeb

    Rydym yn awyddus i ddarganfod naratif sydd yn adlewyrchu profiadau Cymreig, gan adrodd straeon o Gymru mewn modd unigryw a chreadigol. Os oes gennych syniad am raglen ddogfen am syniad neu brofiad sy'n taro nodyn gyda chi ... o brofiadau personol, eich cymuned, neu faterion cyfoes sydd yn bwysig i chi - rydym yn eich gwahodd i'w rannu.

    Rydym yn chwilio am straeon byr di-sgript fydd yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd Cymraeg rhwng 16-25 oed.

    Gall eich stori edrych ar themâu fel hunaniaeth Gymreig, iechyd meddwl, treftadaeth wledig, mynegiant artistig, cyfiawnder cymdeithasol, neu unrhyw bynciau eraill sydd yn agos at eich calon. Nid ydym yn chwilio am arddull na fformat penodol; yr hyn sydd yn bwysig yw angerdd, dilysrwydd, a phersbectif ffres.

    Nid oes angen offer proffesiynol na phrofiad helaeth mewn creu cynnwys - eich gweledigaeth a'ch naratif unigryw yw'r hyn sydd bwysicaf. Boed eich syniad yn fawr neu’n fach ... yn lleol neu'n bell, dewch atom ni! Heriwch ni, ysbrydolwch ni, ac, yn bwysicaf oll, adroddwch y stori sydd yn unigryw i chi!

    Sut i Gyflwyno’r Syniad / canllawiau fideo:

    Ar gyfer y cais, bydd gofyn i chi uwchlwytho dogfen gyda’r cyflwyniad neu fideo byr 3 munud sydd yn cynnwys manylder y syniad. Yn y ddogfen / fideo hon, dylech gynnwys:
    1. Crynodeb un frawddeg o’r syniad
    2. Beth fydd dechrau, canol a diwedd eich rhaglen ddogfen?
    3. Pwy yw'r cymeriadau yn eich rhaglen ddogfen (a chadarnhau eich bod wedi cael eu caniatâd i’w cynnwys yn y ffilm)
    4. Lleoliad y rhaglen, a braslun o’r hyn byddwch yn ffilmio
    5. Pam ddylid adrodd y stori yma - a beth yw eich cysylltiad â'r stori.

    Amserlen

    Os fyddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich mentora gan dîm cynhyrchu proffesiynol It's My Shout, a bydd criw ac offer proffesiynol yn cael eu darparu, ynghyd â Golygydd proffesiynol.

    Bydd y ffilmio yn digwydd dros 2/3 diwrnod yn haf 2026. Rhaid ffilmio cynnwys eich ffilm o fewn yr amserlen hon.

    Bydd y ffilmiau yn cael eu darlledu yn 2026 ar S4C a HANSH. Pob lwc!

  • Ticiwch y themâu sy’n berthnasol i’ch ffilm ddogfen:*
  • Your idea/ Director Application

    If you have a documentary idea, please submit the idea below, following the instructions. If you would like to apply to be a Director, please add your CV and/or showreel at the bottom.
  • Nawr mae’n amser i chi uwchlwytho eich syniad ar gyfer ffilm ddogfen 10 munud!

    Gallwch ddweud mwy wrthym am eich syniad mewn un o ddwy ffordd:

    1. Dogfen PDF sy’n cyflwyno eich syniad – gallwch ei huwchlwytho isod.
    2. Fideo 3 munud ohonoch chi’n siarad am eich syniad. Rhaid i’r fideo fod yn uchafswm o 3 munud iddo gael ei ystyried. Uwchlwythwch y fideo i YouTube fel dolen gudd a rhowch y ddolen wylio isod.


    Yn eich dogfen PDF neu fideo, dylech gynnwys:

    1. Crynodeb o’ch syniad mewn un frawddeg.
    2. Beth fydd dechrau, canol a diwedd y ffilm ddogfen.
    3. Pwy yw’r cymeriadau yn y ffilm (a chadarnhau eich bod wedi siarad â nhw am gymryd rhan).
    4. Ble fydd y ffilm yn cael ei lleoli a beth fyddwch chi’n ffilmio.
    5. Pam mae’r stori hon angen ei hadrodd a beth yw eich cysylltiad â hi.

  • Browse Files
    Drag and drop files here
    Choose a file
    Cancelof
  • Browse Files
    Drag and drop files here
    Choose a file
    Cancelof
  • Should be Empty: