The Eurekas 2026 – Meini Prawf ar gyfer Cyflwyno Cais
Cwestiwn y gystadleuaeth
Sut y gall ffiseg helpu i baratoi eich cartref ar gyfer y dyfodol?
Dyddiad agor y gystadleuaeth: Dydd Llun, 9 Mawrth 2026
Dyddiad cau’r gystadleuaeth: Dydd Llun, 8 Mehefin 2026
Canllawiau ar gyfer cyflwyno cais
· Dylai ceisiadau ddangos y myfyrwyr yn rhyngweithio â ffiseg mewn modd creadigol sydd efallai’n annisgwyl.
· Ni ddylai fideos fod yn hirach na 60 eiliad; ni ddylai ffeiliau fod yn fwy na 10MB o faint; ac ni ddylai darnau ysgrifenedig gynnwys mwy na 600 o eiriau.
· Gellir defnyddio adnoddau deallusrwydd artiffisial i gynhyrchu syniadau neu gael cymorth, ond rhaid mai gwaith gwreiddiol y myfyriwr ei hun yw’r cais terfynol. Wrth gyflwyno’r cais, rhaid darparu datganiad byr i nodi bod deallusrwydd artiffisial wedi’i ddefnyddio.
Beirniadu a gwobrau
· Bydd y cais buddugol yn cael £1,000/€1,200. Bydd y sawl a gyflwynodd gais fel grŵp yn rhannu’r wobr rhwng aelodau’r tîm.
· Bydd dau gais y bernir eu bod yn ail yn y gystadleuaeth yn cael gwobr ariannol o £500/€600 yr un. Yn achos cais a gaiff ei gyflwyno gan grŵp, bydd y wobr yn cael ei rhannu’n gyfartal rhwng aelodau’r tîm.
· Bydd chwe gwobr o £250/€300 yn cael eu dyfarnu i gais unigol rhagorol gan gyfranogwr ym mhob categori oedran, o 11 i 16. Ni fydd ceisiadau gan dimau’n gymwys ar gyfer y gwobrau hyn.
· Bydd pob prosiect a gyflwynir yn cael ei adolygu gan banel o feirniaid. Bydd y beirniaid yn asesu’r ceisiadau ar sail y meini prawf canlynol:
o Perthnasedd: a yw’r cais yn ymateb i’r brîff?
o Gwreiddioldeb a chreadigrwydd: a yw’r cais yn unigryw, o ran ei ffurf a’i gynnwys?
o Ansawdd: a yw’r cais yn gywir yn dechnegol ac a yw wedi’i lunio yn dda?
o Cynrychiolaeth: a yw’r cais yn adlewyrchu gwerthoedd yr ymgyrch?
o Sleidiau: Rydym yn argymell 5-10 o sleidiau (a dim mwy na 15). Dylid eu hallforio ar ffurf ffeil PDF a sicrhau eu bod dan 10MB o faint.
o Fideos: Ni ddylai fideos fod yn hirach na 90 eiliad. Os caiff mwy nag un fideo ei lanlwytho, rhaid nad yw’r fideos gyda’i gilydd yn hirach na 90 eiliad. Rhaid nad yw ffeiliau’n fwy na 10MB o faint.
o Ysgrifennu: Ni ddylai darnau ysgrifenedig gynnwys mwy na 600 o eiriau.
o Darnau o gerddoriaeth: Os byddwch yn cyflwyno trac sain, dylech hefyd lanlwytho’r geiriau fel testun ar wahân neu ffeil PDF. Ni fydd geiriau o’r fath yn cyfrif at y terfyn o 600 o eiriau ar gyfer darnau ysgrifenedig.
o Portreadu gwyddonwyr: Hoffem annog ceisiadau i roi sylw i wyddonwyr nad ydynt yn cyd-fynd â stereoteipiau, sy’n cynnwys ffigurau amrywiol a llai adnabyddus o ystod o gefndiroedd, hunaniaethau a disgyblaethau (e.e. peirianwyr, technegwyr, gwyddonwyr data, ecolegwyr). Dylech ystyried sut y mae eich cais yn herio ystrydebau ynglŷn â phwy sydd i’w gweld yn gwneud gwyddoniaeth, beth y maent yn ei wisgo, a ble y mae gwyddoniaeth yn digwydd.
Telerau ac amodau
1. Dyma’r canllawiau a’r telerau a’r amodau llawn ar gyfer cystadleuaeth ‘The Eurekas’. Drwy gyflwyno cais, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a’ch bod yn derbyn y telerau hyn. Caiff y gystadleuaeth ei chynnal gan y Sefydliad Ffiseg/Institute of Physics (‘IOP’), 37 Caledonian Road, London, N1 9BU, UK.
2. Drwy gyflwyno cais, rydych yn rhoi i’r Sefydliad Ffiseg hawl fyd-eang, derfynol heb freindal i gyhoeddi a dosbarthu’r cais ar ei sianel YouTube dan Drwydded Ryngwladol Priodoli-Anneilliadol 4.0 Creative Commons (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/) ac ar ei wefannau ac yn ei gyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd gan y Sefydliad Ffiseg hawl i addasu’r cais fel y bo raid er mwyn arfer yr hawl hon i gyhoeddi.
3. Rhaid bod yr ymgeiswyr rhwng 11 ac 16 oed pan gaiff eu cais ei gyflwyno.
4. Rhaid i bob cais gael ei gyflwyno gan riant/gofalwr neu athro/athrawes ar ran yr ymgeisydd. Ni fyddwn yn gallu beirniadu ceisiadau a gyflwynir gan fyfyrwyr, a dim ond â’r rhiant/gofalwr neu’r athro/athrawes a gyflwynodd y cais y byddwn yn cyfathrebu. Dylech sicrhau bod pob cais yn cydymffurfio â pholisi diogelu eich ysgol.
5. Os yw’r cais yn cael ei gyflwyno gan athro/athrawes, rhaid iddo/iddi sicrhau ei fod/bod yn gyntaf wedi cael - yn unol â gweithdrefnau arferol yr ysgol ar gyfer cael caniatâd rhiant - y caniatâd angenrheidiol gan rieni/gofalwyr yr ymgeiswyr i gyflwyno’r cais ac i’w ddefnyddio fel yr eglurir yn y telerau hyn.
6. Yn achos ceisiadau gan grwpiau, rhaid bod pob un o aelodau’r tîm yn mynd i’r un ysgol – ond gallant fod mewn dosbarthiadau neu flynyddoedd gwahanol.
7. Ni all ceisiadau fod yn anorffenedig pan gânt eu cyflwyno. Ni fyddwn yn caniatáu i geisiadau gael eu haddasu’n nes ymlaen, felly dim ond ceisiadau gorffenedig y dylech eu cyflwyno.
8. Cyfrifoldeb yr athro/athrawes neu’r rhiant/gofalwr yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newid i’w manylion cyswllt, os bydd y manylion hynny’n newid yn ystod y gystadleuaeth. Peidiwch ag anfon unrhyw fanylion cyswllt ar gyfer y myfyrwyr atom.
9. Bydd y cais buddugol yn cael £1,000/€1,200. Bydd y sawl a gyflwynodd gais fel grŵp yn rhannu’r wobr rhwng aelodau’r tîm.
10. Bydd y ddau sy’n ail yn cael £500/€600 yr un, a bydd chwe gwobr o £250/€300 yn cael eu dyfarnu i gais rhagorol o bob grŵp oedran, o 11 i 16.
11. Bydd enwau enillwyr y gwobrau’n cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2026.
12. Bydd pob gwobr yn cael ei thalu i’r rhiant/gofalwr neu’r athro/athrawes a gyflwynodd y cais, a’u cyfrifoldeb nhw fydd sicrhau bod y wobr yn cael ei rhoi i’r ymgeiswyr.
13. Os bydd ymgeisydd buddugol yn methu â rhoi gwybod i’r Sefydliad Ffiseg beth yw enw ei ysgol, neu os bydd yn enwebu mwy nag un ysgol, bydd gan y Sefydliad Ffiseg yr hawl i enwebu neu ddewis yr ysgol sy’n addas i gael y wobr.
14. Ni ellir cyfnewid na throsglwyddo unrhyw wobrau.
15. Os na ellir cysylltu ag enillydd cyn pen 30 diwrnod, gellir datgan bod y cais yn annilys a gellir dewis enillydd newydd.
16. Bydd penderfyniadau’r beirniaid yn derfynol ac ni ellir apelio yn erbyn y canlyniadau.
17. Rhaid bod unrhyw brosiectau sy’n golygu rhyngweithio â phobl neu ddefnyddio sylweddau neu ddyfeisiau peryglus yn cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol ynghylch iechyd a diogelwch a chanllawiau sefydliad addysgol yr ymgeisydd.
18. Ni all y Sefydliad Ffiseg dderbyn cyfrifoldeb am geisiadau nad ydynt yn dod i law neu geisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad cau oherwydd nam technegol neu reswm arall.
19. Ni chaniateir unrhyw geisiadau gan weithwyr y Sefydliad Ffiseg neu unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth, gan gynnwys aelodau o’u teulu agosaf.
20. Mae’r Sefydliad Ffiseg yn cadw’r hawl i newid rheolau’r gystadleuaeth hon, neu ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth, yn ddirybudd.
21. Gellir gwrthod unrhyw gais, ac mae’r Sefydliad Ffiseg yn cadw’r hawl i beidio â dyfarnu rhai o’r gwobrau neu bob un ohonynt os nad yw’r ceisiadau yn bodloni’r gofynion, yn unol â phenderfyniad y beirniaid.
22. Ni chaniateir llên-ladrata: rhaid mai gwaith gwreiddiol yr ymgeisydd yw’r cais, a rhaid nad yw wedi’i gyhoeddi yn unrhyw le arall ac nad yw wedi’i ddefnyddio i gymryd rhan mewn cystadlaethau eraill. Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, mae’r unigolyn sy’n cyflwyno’r cais yn rhoi cadarnhad i’r Sefydliad Ffiseg: (i) mai gwaith gwreiddiol yw’r cais, a grëwyd gan yr ymgeisydd/ymgeiswyr yn unig; a (ii) nad yw’r cais yn torri hawlfraint neu’n tresmasu ar hawliau eiddo deallusol eraill unrhyw drydydd parti.
23. Defnyddio deallusrwydd artiffisial: Gall ymgeiswyr ddefnyddio adnoddau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i gefnogi eu proses greadigol, ond rhaid mai eu gwaith gwreiddiol eu hunain yw pob syniad, pob esboniad a phob cais terfynol. Rhaid i unrhyw ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial gael ei ddatgan gan y rhiant/gofalwr neu’r athro/athrawes pan gaiff y cais ei gyflwyno.
24. Ni fydd y Sefydliad Ffiseg yn atebol am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â chymryd rhan yn y gystadleuaeth.
25. Bydd data personol yn cael ei brosesu gan y Sefydliad Ffiseg yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Mae rhagor o fanylion i’w cael yma: https://www.iop.org/privacy-notice-cookie-policy.
26. Caiff y telerau a’r amodau hyn eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr.