Nawr mae’n amser i chi uwchlwytho eich syniad ar gyfer ffilm ddogfen 10 munud!
Gallwch ddweud mwy wrthym am eich syniad mewn un o ddwy ffordd:
1. Dogfen PDF sy’n cyflwyno eich syniad – gallwch ei huwchlwytho isod.
2. Fideo 3 munud ohonoch chi’n siarad am eich syniad. Rhaid i’r fideo fod yn uchafswm o 3 munud iddo gael ei ystyried. Uwchlwythwch y fideo i YouTube fel dolen gudd a rhowch y ddolen wylio isod.
Yn eich dogfen PDF neu fideo, dylech gynnwys:
1. Crynodeb o’ch syniad mewn un frawddeg.
2. Beth fydd dechrau, canol a diwedd y ffilm ddogfen.
3. Pwy yw’r cymeriadau yn y ffilm (a chadarnhau eich bod wedi siarad â nhw am gymryd rhan).
4. Ble fydd y ffilm yn cael ei lleoli a beth fyddwch chi’n ffilmio.
5. Pam mae’r stori hon angen ei hadrodd a beth yw eich cysylltiad â hi.